Dwi’n blogio’n gynnar bore ‘ma am fod gen i antur newydd o fy mlaen heddiw: lasers!
Clik here to view.

Ydw, dwi’n dathlu diwedd y rownd yma o lawdriniaeth efo llawdriniaeth fonws! Dwi wedi gwisgo sbectol ers pan o’n i’n dair, felly dwi di penderfynu cael cywiriad golwg laser – mae’n siwr y bydd fy nhrwyn yn teimlo’n hollol noeth hebddynt ond dwi’n fodlon cymryd y risg.
Felly, dyma’r blog ola, falle, y bydda i a fy sbectol yn sgrifennu efo’n gilydd. Diolch bois!
Mae’r cyfnod gwella yn fyr, mae’n debyg, ond yn ddiflas – felly dwi’n ceisio darganfod cymaint o bodcastau a’u llwytho ar frys bore ma, i fi gael cadw’n ddiddan tra’n gorffwys fy llygaid.
Clik here to view.

Wnes i fwynhau podcast diweddara RuPaul efo Henry Rollins: ‘Abandoning We for I‘ – ac wrth gwrs mi wrandewais i ar Obama ar WTF (er nad yw Maron at fy nant i yn aml). Ma cyfres Hey Qween ar youtube yn ffefryn swnllyd lliwgar, ond dyw e ddim yn bodcast, na chwaith cweit yn ddigon hir. Dwi’m yn gwrando ar yr haclediad mor aml ac y dylwn i, ond bob tro dwi’n gneud dwi’n joio’n arw. Oes da chi unrhyw ffefrynnau? fe fyddwn i’n gwerthfawrogi unrhyw argymhellion dros y diwrnodau nesa! Er, sai’n siwr sut dwi’n mynd i gymedroli na blogio… Cewn weld! (gobeithio)